Hysbysiad o Gyfethol - Ward Pentre Mawr
Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod 1 sedd gwag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod, a fod yr Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.
Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o'r cyhoedd sy'n cyflawni'r meini prawf canlynol ac sydd a diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, lwerddon neu'r Undeb Ewropeaidd neu yn ddinesydd tramor cymwys ac yn 18 oed neu'n hyn, ac yn cyflawni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- wedi'ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
- yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu'n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
- wedi bod a'ch prif neu'ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
- rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf.
Mae rhai pobl penodol wedi'u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy'n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a'r rheiny sy'n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Mae'r gyfrifoldeb yn eistedd gyda'r ymgeisydd i sicrhau eu bod yn gymwysedig i ymgeisio.
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd gwag, neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch r6I Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch a Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn 01745 833 242 | info@abergeletowncouncil.gov.wales erbyn 3ydd o Orffennaf 2026