Ysbryd Cymunedol yn Disgleirio yn Niwrnod Hwyl Abergele
Hoffai Cyngor Tref Abergele ddiolch o galon i bawb a ddaeth i Ddiwrnod Hwyl Abergele eleni ym Mharc Pentre Mawr, gan helpu i'w wneud yn ddathliad cofiadwy arall o ysbryd cymunedol a sefydliadau lleol, ac o hwyl i’r teulu.
Mi wnaeth trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau am ddim a gynhaliwyd drwy gydol y dydd, gan gynnwys Scaly Safari, Flyball UK, Gecko Golf, Lorenzo’s children's teacup ride, Menter Iaith Conwy, a gemau gardd rhad ac am ddim. Roedd y gystadleuaeth tynnu rhaff yn arbennig o boblogaidd gyda phlant ac oedolion fel ei gilydd yn cymryd rhan, a bu’n gystadleuaeth gyfeillgar rhwng pawb.
Denodd y Sioe Gŵn Hwyl lawer o ymgeiswyr a gwylwyr, a darparwyd adloniant drwy gydol y digwyddiad gan amrywiaeth o berfformwyr lleol talentog. Mi wnaeth Cat McCardle, y cyflwynydd, sicrhau bod y perfformiadau’n rhedeg yn esmwyth, gyda’r ymwelwyr yn mwynhau perfformiadau gan The Marinas, Elliw Jones, Crazy Catz, a’r Danny Go Tribute Act gan SH Kids Parties.
Yn newydd eleni oedd y profiad Blas ar Gymru. Cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau arddangosiadau coginio byw wedi’u noddi gan raglen Bwyd a Diod Cymru ac a gyflwynwyd gan Meals with Chris. Cafwyd sesiynau blasu am ddim lle roedd cyfle i flasu amrywiaeth o seigiau a chasglu awgrymiadau coginio defnyddiol. Cafodd y rhai oedd yn bresennol hefyd gyfle i flasu detholiad o gynnyrch Cymreig a gynhyrchir yn lleol (diolch i Blas ar Fwyd). Roedd hwn yn gyfle i arddangos y safon a’r amrywiaeth o gynhyrchion bwyd a diod a geir yng Nghymru.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i drigolion gyfarfod a siarad ag amrywiaeth o grwpiau cymunedol, elusennau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau lleol.
Roedd Cyngor y Dref hefyd yn falch o ddarparu bagiau byrbrydau am ddim i blant yn y digwyddiad. Noddwyd y ffrwythau ffres gan Tesco.
Hoffai Cyngor Tref Abergele ddiolch i’r holl berfformwyr, darparwyr gweithgaredd, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, noddwyr ac ymwelwyr a roddodd help llaw a wnaeth y diwrnod yn un mor llwyddiannus. Hoffai Cyngor y Dref hefyd ddiolch i Digwyddiadau Conwy am ei holl waith caled yn trefnu’r digwyddiad, ac am sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel. Diolch hefyd i Combat Wombat, Drones Cymru ac Abergele TV am gofnodi’r diwrnod ar ffilm.
Dywedodd Maer Abergele:
"Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd ym Mharc Pentre Mawr ac yn mwynhau’r holl bethau a gynigiwyd gan Ddiwrnod Hwyl Abergele. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr dreulio amser gyda'i gilydd, i gefnogi sefydliadau lleol, ac i ddathlu popeth sy'n gadarnhaol am ein cymuned. Roedd yr awyrgylch drwy gydol y dydd yn wych, ac roedd hi’n arbennig o hyfryd gweld cymaint o deuluoedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn mwynhau'r adloniant. Ar ran Cyngor Tref Abergele, hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad ac i bawb a weithiodd mor galed y tu ôl i'r llenni i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant.”
Mae Cyngor Tref Abergele yn edrych ymlaen at groesawu trigolion ac ymwelwyr yn ôl i ddigwyddiadau cymunedol yn y dyfodol ac i barhau i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a mwynhau popeth sydd gan Abergele i'w gynnig.































