Hafan > Beth sydd ymlaen > Ffilm a Chwestiynau ac Atebion
Ffilm a Chwestiynau ac Atebion
Byw’n well hefo Dementia yng Ngogledd Cymru - Dangos Ffilm a Sesiwn Holi ac Ateb
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn falch o barhau i gydweithio hefo cyfleoedd eto i ddangos ffilm newydd sef Byw’n Well hefo Dementia.
Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn y ffilm. Ceir trafodaeth am blismona a materion iechyd a allai effeithio ar bobl sy’n byw hefo dementia neu eu teuluoedd/teuluoedd o’u dewis.
Gall pynciau gynnwys:
- Byw cystal â phosibl hefo dementia
- Cadw’n saff
- Gwarchod eich cartref chi
- Help ar gyfer rhywun sy’n mynd ar goll
Yr Hen Ysgol, Stryd y Farchnad, Abergele
Dydd Iau 4 Mehefin 2026 o 1:30pm i 3:30pm
Croeso i bawb.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim a bydd lluniaeth ar gael.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch: Mel Gizzi: 07584 050 269
MAE’R PUM FFILM FER YN CYNNWYS:
- Beth ydy dementia?
- Pryd i ofyn am help
- Cael diagnosis
- Byw hefo dementia
- Cynllunio ar gyfer y dyfodol